Ia, un person oedd o, ond un a degau o wahanol agweddau iddo:
Mered y casglwr caneuon a'r canwr gwerin;
Mered yr athronydd;
Mered yr arloeswr ym myd darlledu Cymraeg;
Mered yr ymgyrchydd iaith;
Mered arloeswr y papurau bro (ei syniad ef oedd y papur bro cyntaf, Y Dinesydd yng Nghaerdydd);
Mered yr addysgwr, a
Mered y gwr addfwyn a'r galon fawr.